Mae nifer y plant sy’n dod i mewn i ofal yn parhau i gynyddu. Yn Sir Ddinbych, mae tua 250 o blant a phobl ifanc yng ngofal yr Awdurdod Lleol ar hyn o bryd, ond dim ond ychydig mwy na 40 o aelwydydd sy’n maethu.
Efallai eich bod wedi meddwl am faethu yn y gorffennol ac wedi meddwl tybed beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu gyda’ch Cyngor lleol a maethu gydag asiantaethau eraill? Gall penderfynu pwy i faethu gyda nhw fod yn benderfyniad mawr a dryslyd.
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych gyfrifoldeb cyfreithiol am bob plentyn yn eu gofal. Trwy faethu gyda Chyngor Sir Ddinbych, byddwch yn maethu’n uniongyrchol gyda’r tîm sy’n ymwneud â gwneud cynlluniau ar gyfer y plentyn. Mae pawb sy’n rhan o’r gwaith – o weithiwr cymdeithasol y plentyn, y gweithwyr cymdeithasol maethu a’r gofalwyr maeth – yn rhan o’r un sefydliad. Un tîm cysylltiedig ydym ni.
Pan fydwch chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, Maethu Cymru Sir Ddinbych, rydych chi’n dewis pobl, nid elw. Fel sefydliad nid-er-elw, mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r gwasanaeth maethu yr ydym yn ei ddarparu er mwyn helpu i greu dyfodol gwell i blant a phobl ifanc lleol yn Sir Ddinbych.
Mae maethu Awdurdod Lleol yn canolbwyntio ar gadw plant yn eu cymuned, yn agos at ffrindiau ac aelodau’r teulu, ac mae’n caniatáu iddynt aros yn eu hysgol bresennol, pan fo hynny’n iawn iddyn nhw. Gall hyn roi sefydlogrwydd i blant a helpu i gadw eu hymdeimlad o hunaniaeth.
dewch i gwrdd â gofalwyr maeth awdurdod lleol, Amy a Paul
Mae ein gofalwyr maeth, Amy a Paul, wedi bod yn maethu gyda Maeth Cymru Sir Ddinbych ers dros flwyddyn. Mae Amy’n disgrifio pam mai maethu gyda’u Hawdurdod Lleol oedd y dewis iawn iddyn nhw a sut brofiad fu eu blwyddyn gyntaf fel gofalwyr maeth.
pam wnaethoch chi ddewis maethu cymru sir ddinbych?
“Fe wnaethom ni benderfynu maethu gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych ar ôl bod mewn noson agored gyda gofalwyr maeth lleol a staff. Roedden nhw’n llawn gwybodaeth, yn ofalgar ac yn siarad gydag angerdd. Roedd y tîm cyfan yn ddymunol iawn ac aethom adref gyda’r holl wybodaeth oedd ei hangen arnom er mwyn penderfynu mai maethu gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych oedd y dewis iawn i ni fel teulu. Wnaethon ni ddim hyd yn oed ystyried maethu gydag unrhyw un arall ar ôl y noson honno.”
“Fe ddaethom o’r noson agored gyda’r wybodaeth gywir er mwyn penderfynu mai maethu gyda’n Hawdurdod Lleol oedd y dewis iawn i ni fel teulu” – Amy
sut oedd eich profiad o’r broses ymgeisio?
“Mae’r broses ymgeisio’n gallu bod yn eithaf dwys a gall achosi straen weithiau. Ond, er hynny, fe wnaethom ni fwynhau’r broses! Rydych chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod popeth amdanoch chi eich hun a’ch partner, ond yn ystod y broses, wrth drafod eich magwraeth a bywyd eich teulu gartref, rydych chi’n dysgu llawer iawn am eich gilydd. Os ydych chi’n delio â’ch gwaith papur yn brydlon – darllen a llenwi’r ffurflenni, a bod yn agored a gonest am bopeth, mae’r broses yn eithaf syml.”
pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried bod yn ofalwr maeth?
“Maeth yw’r peth gorau i ni ei wneud erioed. Cofiwch fod â meddwl agored oherwydd bydd gan bob plentyn ei anghenion unigol ei hun. Os oes gennych amynedd, dealltwriaeth a chariad i’w rannu, byddwch chi’n ofalwr maeth gwych.”
“Os oes gennych amynedd, dealltwriaeth a chariad i’w rannu, byddwch chi’n ofalwr maeth gwych.” – Amy
“Bydd eich profiad cyntaf fel teulu maeth yn arbennig am byth oherwydd dyma lle fydd eich taith faethu’n dechrau. Bydd plant maeth yn ein calonnau am byth. Ffarwelio pan fyddan nhw’n symud ymlaen fydd y ffarwel anoddaf i chi. Byddwn i’n hoffi dweud ei bod hi’n mynd yn haws, ond dydi hynny ddim yn wir. Mae’n teimlo’n wahanol bob tro oherwydd rydych chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl ac wedi dysgu sut i ddelio â’r sefyllfa’n well. Mae gwybod eich bod wedi cael dylanwad ac effaith gadarnhaol ar daith y plentyn hwnnw mor arbennig.”
“Mae’r gefnogaeth rydym wedi’i chael gan ein gweithiwr cymdeithasol goruchwylio wedi bod yn wych. Pryd bynnag fydd ei hangen arnom, rydw i’n gwybod y gallaf i godi’r ffôn neu anfon neges destun. Hyd yn oed os bydd hi’n brysur, bydd hi bob amser yn ateb a rhoi gwybod pryd fydd hi’n gallu cysylltu’n ôl.
Mae hi wedi bod yn gefnogaeth fawr i ni fel gofalwyr maeth a’n teulu hefyd wrth i ni orfod mynd trwy broses ffarwelio anodd. Mae hi wedi bod yn rhan fawr o’n taith faethu ac ni fyddem wedi gallu gwneud hyn hebddi.”
beth yw eich hoff foment faethu hyd yma?
“Dim ond wrth gael eu dal gan Paul neu minnau fyddai ein plentyn maethu cyntaf yn stopio crio. Roeddem ni’n gwybod yn syth eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel gyda ni. Dyna pryd oeddem ni’n gwybod ein bod ni’n gwneud yn iawn.”
“mae eich profiad cyntaf o fod yn deulu maeth yn arbennig iawn” – Amy
allech chi faethu gyda’ch awdurdod lleol?
Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych ac yn teimlo y gallech helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol, cysylltwch â Maethu Cymru Sir Ddinbych a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu os yw Maethu yn iawn i chi.
Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru (dolen allanol) i ddod o hyd i dîm maethu eich Awdurdod Lleol.