
pwy all faethu?
Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth eang o ofalwyr – pob un â chefndiroedd, profiadau a straeon gwahanol i’w rhannu.
dysgwych mwyRhannu gwybodaeth, cydweithio a chreu dyfodol gwell i blant ledled Sir Ddinbych yw’r hyn rydyn ni’n credu ynddo fwyaf – a’r hyn rydyn ni’n gweithio tuag ato bob dydd.
Ni yw Maethu Cymru Sir Ddinbych, ac rydyn ni’n rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu? Ymunwch â’n sesiynau gwybodaeth un i un ar-lein, lle byddwn yn trafod y broses o ddod yn ofalwr maeth a’r buddion y byddwch yn eu cael wrth faethu gyda ni. Cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru:
Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth eang o ofalwyr – pob un â chefndiroedd, profiadau a straeon gwahanol i’w rhannu.
dysgwych mwyMae nifer o wahanol fathau o ofal maeth, ond mae pob un yn galluogi plentyn i dyfu i fyny mewn amgylchedd diogel.
beth sy'n iawn i chi?Rydyn ni eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yn eich cymuned leol yn Sir Ddinbych. Rydyn ni’n darparu’r holl wybodaeth arbenigol, hyfforddiant, cefnogaeth bwrpasol a lwfansau ariannol y bydd eu hangen arnoch.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, fel un tîm, i greu dyfodol gwell a mwy disglair i blant a phobl ifanc lleol yn Sir Ddinbych.
Ydych chi eisiau gwybod sut i ddechrau eich taith maethu, a beth sy’n digwydd nesaf?
Mae maethu yn cymryd ymrwymiad ac ymroddiad, ond mae’r boddhad yn fwy nag y gallech chi erioed ddychmygu.
Dysgwch sut i gymryd eich camau cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, yn ogystal â beth i'w ddisgwyl nesaf.
dysgwch mwy