
Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych yn annog mwy o bobl i ymuno â’r niferoedd cynyddol o gartrefi maethu LHDTC+ yng Nghymru.
Mae cartrefi maethu LHDTC+ yng Nghymru wedi cynyddu 37% yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael*.
Yn ystod Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+, sy’n dechrau ar 3ydd Mawrth, mae Maethu Cymru Sir Ddinbych annog pobl LHDTC+ i ystyried gwneud ymholiadau i ddod yn ofalwyr maeth ac i newid bywydau yn 2025.
Yn Sir Ddinbych, ar hyn o bryd mae bron i 190 o blant angen gofal maeth. Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae llawer o bobl LHDTC+ yn gweld bod ganddynt fanteision unigryw i’w cynnig i ofal plant a phobl ifanc.
Dechreuodd Dan a’i bartner Barry, o Sir Ddinbych, faethu naw mlynedd yn ôl.
“Fe wnaethon ni ddewis maethu oherwydd i ni feddwl y medrwn ni gefnogi llawer o blant,” meddai Dan.
“Wnaeth o ddim gweithio cweit felly. Buom yn gofalu am fachgen bach ar benwythnosau am rai misoedd, yna dechreuon ni ei faethu yn y tymor hir.
“Mae wedi bod gyda ni am wyth mlynedd. Mae wedi dod yn rhan o’n teulu, rydym yn ei drin fel ein teulu ni a fo ydy’r unig un i ni ofalu amdano ers hynny.”
Dywedodd Dan fod y ddau bob amser wedi cael cefnogaeth wych gan Maethu Cymru Sir Ddinbych a bod gweithwyr cymdeithasol wedi bod ar gael pan fo angen, bob amser.
“Roeddwn ni eisiau rhoi cartref teuluol normal i blant yn y system ofal, ond beth sy’n normal?” medd Dan.
“Nid yw’n air yr ydw i’n hoff o’i ddefnyddio oherwydd nid oes y fath beth. Roeddwn i eisiau rhoi bywyd y maen nhw’n ei haeddu i blant. Mae plant mewn gofal wedi bod trwy gymaint a dwi eisiau iddyn nhw fod yn hapus a chael y plentyndod gefais i a Baz a dyna ry’n ni wedi ceisio ei wneud.”

Mae mabwysiadwyr a gofalwyr maeth fel Dan a Barry wedi rhannu eu profiadau ar y podlediad New Family Social.