sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Os ydych yn barod i ddechrau eich taith faethu, mae’n debyg eich bod yn meddwl tybed pa mor hir y mae’r broses faethu’n ei gymryd yn Sir Ddinbych a’r hyn y dylech ei ddisgwyl. Dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod i ddechrau arni.

Gwyliwch ein fideo byr sydd yn egluro beth yw’r broses o ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru: Pa mor hir mae’r broses faethu’n ei gymryd? | Maethu Cymru

 

young child playing hopscotch

y cam cyntaf: cysylltwch

Os ydych chi’n barod i ddechrau ar eich taith faethu, mae’n siŵr eich bod chi’n meddwl tybed faint o amser mae’r broses faethu’n ei chymryd yn Sir Ddinbych a beth ddylech chi ei ddisgwyl. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn dechrau arni.

Happy couple standing outside house

cam 2 – yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu â ni, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi. Yn gyntaf, byddwn yn siarad dros y ffôn. Yna, os gallwn ni, byddwn yn dod i’ch cartref am ymweliad anffurfiol. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn dechrau gyda galwad fideo.

Mae’r camau cyntaf hyn yn bwysig er mwyn i ni feithrin perthynas â chi. Dyma pryd gallwn ni ddechrau deall pwy sydd bwysicaf i chi a dysgu mwy am y lle rydych chi’n ei alw’n gartref.

books about fostering

cam 3 – yr hyfforddiant

Byddwch yn cael cynnig rhywfaint o hyfforddiant i ddechrau, i ddysgu mwy i chi am faethu a sut byddwch chi’n gallu cyflawni eich rôl fel gofalwr maeth. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr mai dyma’r llwybr iawn i chi.

Enw’r cwrs hyfforddi a datblygu cyntaf hwn yw “Paratoi i Faethu”, neu weithiau “Sgiliau Maethu”. Bydd yn digwydd dros dridiau. Yn ogystal â darparu llawer o wybodaeth, mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â gofalwyr maeth eraill sydd ar yr un cam o’u taith â chi.

A family of five playing cards in the garden

cam 4 – yr asesiad

Byddwch chi’n dysgu popeth am beth fydd maethu yn ei olygu i chi yn ystod eich asesiad. Mae’n gyfle i chi a’ch teulu ofyn unrhyw gwestiynau a siarad am unrhyw beth o gwbl a allai fod ar eich meddwl.

Mae’r asesiadau’n ystyried eich cryfderau a’r gwendidau posibl yn eich uned deuluol. Mae pob un yn cael ei wneud gan weithiwr cymdeithasol proffesiynol a medrus.

Dydy hwn ddim yn brawf – mae’n ymwneud mwy â’ch paratoi chi ar gyfer y manteision a’r heriau y gall maethu eu cynnig.

A family of five walking in Denbighshire

cam 5 – y panel

Mae gan bob un o dimau Maethu Cymru banel. Dyma lle bydd eich asesiad yn cael ei ystyried. Mae aelodau ein panel yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol yn ogystal ag aelodau annibynnol. Mae pob aelod yn brofiadol ac yn wybodus iawn. Maen nhw’n edrych ar bob darpar ofalwr maeth fel unigolyn.

Dydy’r panel hwn ddim yn gwneud penderfyniad terfynol. Mae’n bodoli i ystyried eich cais ac yna gwneud argymhellion ynghylch eich cymeradwyo.

A family of 5 smiling outside home

cam 6 – y cytundeb gofal maeth

Ar ôl i’r panel maethu ystyried eich asesiad, mae’r cytundeb gofal maeth yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Mae’n cynnwys eich cyfrifoldebau o ddydd i ddydd a’r gefnogaeth a’r arweiniad ehangach y byddwch yn eu cynnig. Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys yr arbenigedd a’r gwasanaethau y byddwn ni’n eu cynnig i chi fel eich rhwydwaith cefnogi ymroddedig.

A family of 5 walking and looking happy in Denbighshrie

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch