blog

“mae maethu wedi rhoi bywyd newydd i ni”:  stori gofalwyr cysylltiedig Patsy a Richard

Cartref bywiog, anturiaethau mewn pyllau mwdlyd a digon o gariad i’w roi: mae’r gofalwyr cysylltiedig, Patsy a Richard o Sir Ddinbych yn rhannu sut mae croesawu plentyn i’w teulu wedi newid eu bywydau.

Mae Patsy wastad wedi mwynhau cael cartref prysur.  Gyda chwech o blant ei hun a ŵyr yn byw gyda hi, mae bywyd teuluol wedi bod yn llawn egni, chwerthin a’r cydbwyso bob dydd sy’n dod gyda gofalu am blant ers peth amser.  

Pan gyfarfu hi â Richard tair blynedd yn ôl, roedd eu personoliaethau cynnes a chyfeillgar yn eu gwneud nhw’n berffaith i’w gilydd, ac yn fuan iawn wedyn, dechreuon nhw siarad am faethu.

“Mae’r ddau ohonom yn caru plant ac roedden ni’n teimlo bod gennym yr amser a’r lle i roi rhywbeth yn ôl a chefnogi plant a oedd angen ein help,” meddai Patsy.

tro annisgwyl i’w taith yn y byd maethu

Yn gyntaf, cysylltodd Patsy a Richard â Maethu Cymru Sir Ddinbych i ddod yn ofalwyr maeth cyffredinol.  Fodd bynnag, o fewn ychydig fisoedd o wneud yr ymholiad, cafwyd tro annisgwyl i’w taith ac fe ddaethant yn ofalwyr cysylltiedig. 

Mae gofalwr cysylltiedig neu ofalwr sy’n berthynas yn berthynas, ffrind neu’n rhywun sydd eisoes â pherthynas gyda’r plentyn ac sy’n camu i mewn i ofalu amdanynt pan nad yw eu rhieni’n gallu gwneud hynny.  Er bod plant Patsy bellach yn oedolion, roedd ei haelwyd yn parhau i fod yn un prysur a bywiog, gyda dau o’i phlant a’i hŵyr yn dal i fyw gartref.  Y newid mwyaf oedd creu trefn bob dydd newydd a oedd yn gweithio i’r teulu cyfan ac i’r plentyn oedd bellach yn eu gofal.

dyddiau mercher llawn antur a phyllau mwdlyd

Yn gyflym iawn, mae un traddodiad newydd wedi dod yn ffefryn teuluol:  Dydd Mercher Llawn Antur.  Bob wythnos, mae Patsy a Richard yn mynd allan gyda’r rhai bach ac weithiau mae aelodau eraill y teulu yn ymuno â nhw.

“Roeddem yn meddwl ein bod ni’n mynd yn hen, ond yn fuan iawn sylweddolom fod y plant wedi rhoi bywyd newydd i ni,” meddai Patsy wrth chwerthin.  “Rydym hyd yn oed yn mwynhau sblasio mewn pyllau mwdlyd!”

Mae’r aelwyd gyfan wedi addasu’n dda i’r maethu.  Mae plant Patsy sy’n oedolion ac sy’n byw yn rhywle arall hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, gan helpu’r teulu i adeiladu rhwydwaith cadarn o’u hamgylch.

gweld yr hyder yn tyfu

I Patsy, y rhan mwyaf gwobrwyol o ofal cysylltiedig yw gweld y plentyn y maen nhw’n ei ofalu amdano yn dechrau teimlo’n ddiogel ac wedi ymgartrefu yn eu cartref.

“Mae ei phersonoliaeth yn datblygu, ac mae hi’n dod yn fwy hyderus a gofalgar wrth iddi dyfu fyny,” meddai Patsy. 

Mae hi hefyd wedi adeiladu perthynas gadarnhaol gyda rhieni’r plentyn ac yn treulio amser gyda nhw yn y gymuned.  Mae’r adegau hyn yn helpu i gryfhau perthnasau pwysig, gan roi rhwydwaith cefnogol i’r plentyn a’r oedolion sy’n gofalu amdani.

Gan edrych yn ôl ar ei thaith hyd yma, mae Patsy wedi darganfod rhinweddau ynddi hi ei hun nad oedd hi wedi’u cydnabod yn llawn o’r blaen: amynedd, tawelwch a’r gallu i roi hyd yn oed mwy o amser a chariad i blant.

cefnogaeth ar bob cam o’r ffordd

Mae Patsy yn dweud bod y gefnogaeth y mae hi wedi’i gael gan ei gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol a Maethu Cymru Sir Ddinbych wedi bod yn “wych”, ac mae cymorth ac arweiniad ar gael pryd bynnag y mae’r teulu wedi bod angen hynny.

Gan siarad am ei thaith o ddod yn ofalwr cysylltiedig, meddai Patsy: 

“Roedd y broses yn fanwl ac ymwthiol, ond yn angenrheidiol.  Yn union beth fyddwn i ei eisiau pe bai rhywun yn mynd i ofalu am fy mhlentyn.  Mae’r nod yn y pen draw yn werth chweil.”

Yn y dyfodol, mae Patsy a Richard yn gobeithio y gallent barhau i gefnogi eu hawdurdod lleol a chynnig sefydlogrwydd a chariad i fwy o blant sydd angen hynny.

allai maethu fod yn rhan o’ch pennod nesaf chi?

“Os ydych chi’n meddwl am faethu ond yn ei wthio i gefn eich meddwl o hyd gan eich bod yn ansicr am y peth, cymerwch y cam cyntaf hwnnw,” meddai Patsy.  “Gallaf ddweud yn onest mai dyna un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed.  Mae’n hynod wobrwyol gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn.”

Os ydych erioed wedi meddwl a yw maethu yn addas i chi, rŵan yw’r amser i gymryd y cam cyntaf hwnnw.  Nid oes angen i chi fod â’r atebion i gyd, ac nid yw gwneud ymholiad yn eich ymrwymo chi i unrhyw beth.  Yn syml, mae’n dechrau gyda sgwrs. 

Os oes gennych yr amser, y lle a’r tosturi i gefnogi plentyn lleol, byddai Maethu Cymru Sir Ddinbych wrth eu bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â ni heddiw am sgwrs anffurfiol gyda’n tîm cyfeillgar a gweld sut allwch chi wneud gwahaniaeth parhaol i fywyd plentyn lleol.

Os ydych chi’n byw mewn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch