cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth, gan y bobl sy’n gwybod popeth am y peth

Mae maethu yn benderfyniad sy’n newid bywyd, ac mae teimlo fel eich bod yn cael eich cefnogi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ledled Cymru, mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi bob dydd gan dimau ymroddedig, cyngor ymarferol a phobl sy’n deall realiti maethu.

Rydyn ni’n rhannu beth yn union yw’r gefnogaeth honno mewn bywyd go iawn.

Yng ngeiriau’r gofalwyr maeth eu hunain.

 

beth mae cefnogaeth yn ei olygu i ofalwyr maeth

Mae cefnogaeth yn ymwneud â mwy na chael cymorth gyda phrosesau neu daliadau yn unig. Ar gyfer gofalwyr maeth, mae’n ymwneud â gwybod bod rhywun yno i wrando, helpu, a chamu i’r adwy pan fydd angen.

Mae pob taith faethu yn wahanol, ond mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson bod cefnogaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wneud iddynt deimlo’n hyderus a medrus a byth ar eu pennau eu hunain.

 

lleisiau gofalwyr maeth

Yr hyn mae ein gofalwyr maeth yn ei ddweud…

bob amser yno pan fydd angen cymorth arnom

Amy and Paul Foster Carers, Denbighshire

Mae’r cymorth rydym wedi’i gael gan ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol wedi bod yn wych. Gwn fod, pryd bynnag y bydd ei hangen arnom, dim ond galwad ffôn neu neges destun i ffwrdd y mae hi. Hyd yn oed os yw hi’n brysur ar y pryd, bydd hi bob amser yn cydnabod fy neges ac yn rhoi gwybod i mi pryd y bydd yn cysylltu’n ôl. Yn ystod yr adegau anodd o ffarwelio, mae hi wedi bod yn gymorth mawr i ni fel gofalwyr maeth ac i’n teulu. Mae hi wedi bod yn rhan bwysig o’n taith faethu, ac ni fyddem wedi gallu gwneud hynny hebddi.”

Amy a Paul, Gofalwyr Maeth, Sir Ddinbych

cefnogaeth i lwyddo

Foster carer Rob

Mae dewis maethu gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych wedi bod y penderfyniad gorau i mi ei wneud. Drwy gydol fy nhaith, rwyf wedi teimlo fy mod wedi cael cefnogaeth ac anogaeth, ac mae hynny wedi rhoi’r hyder i mi barhau i faethu. Fel gofalwr maeth sengl, mae’r gefnogaeth honno wedi fy helpu i dyfu yn y rôl.”

Rob, Gofalwr Maeth, Sir Ddinbych

pan fo angen cefnogaeth

sut rydym yn cefnogi gofalwyr maeth ledled cymru

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, o Sir Ddinbych i Sir Gaerfyrddin, wedi llofnodi Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru – pecyn cytunedig o hyfforddiant, cymorth a gwobrau a gynigir i holl ofalwyr Maethu Cymru.

Mae’r ymrwymiad hwn yn nodi’r gefnogaeth graidd y gallwch ei disgwyl, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn cael eich cefnogi trwy gydol eich taith faethu.

  • O’ch asesiad cychwynnol gyda gweithiwr cymdeithasol cymwys i arweiniad parhaus gan aelod ymroddedig o dîm Maethu Cymru, byddwch yn derbyn cefnogaeth broffesiynol gyson, ynghyd â chyfleoedd rheolaidd i rannu eich barn.
  • Mae gofalwyr hefyd yn elwa o gymorth cyfoedion, dysgu a datblygu wedi’i deilwra, o leiaf chwe grŵp cymorth bob blwyddyn, ac o leiaf dau ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer yr aelwyd gyfan.
  • Byddwch yn derbyn cylchlythyrau, cynlluniau disgownt, aelodaeth â thâl i’r Rhwydwaith Maethu a New Family Social, a chefnogaeth i greu eich proffil gofalwr maeth ar-lein ar Big Welcome i helpu plant i setlo yn eich cartref. Mae Maethu Cymru hefyd yn cydnabod eich ymroddiad gyda rhoddion gwerthfawrogi, tystysgrifau gwasanaeth hir a gwobrau argymell ffrind, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi bob cam o’r ffordd.