blog

Canfyddiad o bobl ifanc mewn gofal: pam ein bod wrth ein bodd yn maethu plant yn eu harddegau

Fostering Blog (January 2024): Sharen and Colin

Canfyddiad o bobl ifanc mewn gofal: pam ein bod wrth ein bodd yn maethu plant yn eu harddegau

Ym mis Mawrth 2022, roedd 40% o’r 7,080 o blant a oedd yng ngofal yr awdurdod lleol yng Nghymru rhwng 10 a 15 oed, gyda nifer ychydig yn uwch o fechgyn na merched (ffynhonnell: (llyw.cymru).

Yn aml, caiff plant yn eu harddegau eu ‘hanwybyddu’ o fewn Gofal Maeth gyda’r canfyddiad eu bod yn fwy anodd i’w rheoli. Mae yna heriau ynghlwm â maethu plant yn eu harddegau, ond mae yna fanteision enfawr hefyd. Mae hi hefyd yn bwysig cofio y gall heriau fod ynghlwm â phlant o unrhyw oed, nid plant mewn gofal yn unig.

Cam heriol o ddatblygiad

Ar gyfer unrhyw berson ifanc, gall y blynyddoedd yn eu harddegau fod yn gyfnod heriol o ddatblygiad gyda newidiadau mewn hormonau ac awydd cynyddol am annibyniaeth. Ar gyfer ein Plant sy’n Derbyn Gofal yn aml mae yna ystyriaethau ychwanegol yn seiliedig ar ystod o ffactorau megis esgeulustod, ansefydlogrwydd, a diffyg cynhesrwydd emosiynol y gellir ei brofi. Mae pob plentyn yn ei arddegau yn ffynnu ar gael sefydlogrwydd, cyfeiriad, ffiniau a dealltwriaeth a dydi ein pobl ifanc ni ddim yn wahanol.

Eich rôl chi yw annog ein pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau annibyniaeth yn ddiogel a helpu - yn rhan o’r tîm o amgylch y plentyn – i’w paratoi nhw i fod yn oedolyn. Fel Gofalwr Maeth mae’r disgwyliadau arnoch chi i ofalu am ein hoedolion ifanc yn golygu canolbwyntio ar arddangos perthnasoedd cadarnhaol, cyllidebu a diogelwch personol gan fod y mwyafrif fel arfer yn gallu gofalu am eu hunain o ran hylendid, a gan bennaf, maent mewn addysg llawn amser ac felly maent yn fwy annibynnol na phlant iau.

Bod yn oedolyn - beth nesaf?

Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych yn cydnabod nad yw person ifanc o anghenraid yn barod i fyw’n annibynnol am eu bod yn 18 oed. Mae'r "Cynllun Pan Fydda i'n Barod" (gwefan allanol) - yn galluogi’r person ifanc i aros gyda’r teulu maeth gyda chefnogaeth barhaus gweithwyr proffesiynol gyda’r nod bod person ifanc yn gadael eu ‘cartref’ pan maen nhw’n barod yn yr un modd ag y mae pob person ifanc yn ei wneud.

Mae ein gofalwyr maeth Sharen a Colin wedi bod yn maethu gyda'u hawdurdod lleol yn Sir Ddinbych ers 23 mlynedd. Mae Sharen yn rhannu ei phrofiadau o faethu gyda ni, a pham eu bod nhw’n caru maethu plant yn eu harddegau.

Blog Maethu (Ionawr 2024): Rhannu a Colin


"De ni wedi maethu tua 15 o blant yn eu harddegau dros y blynyddoedd ac rydym ni’n ffynnu gyda’r manteision a ddaw yn sgil maethu plant yn eu harddegau. Yn aml mae plant yn eu harddegau’n cael eu camddeall, ac maent yn mynd i ofal mewn cyfnod pan maen nhw’n ymwybodol iawn o’r hyn sy’n digwydd."

"Mae pobl yn meddwl bod plant yn eu harddegau yn gymhleth ac er bod yna heriau yn dod gyda nhw, gall yr arweiniad, sefydlogrwydd iawn, a’r diogelwch a roddir i blentyn yn ei arddegau fod yn help mawr wrth siapio eu dyfodol."

"Fe aeth un o’n plant maeth i brifysgol yn ddiweddar. Mae gan un arall swydd lawn amser, wedi cynilo arian ac wedi prynu eu car eu hunain. Mae eu gweld yn cyrraedd cerrig milltir, cael annibyniaeth a throi mewn i oedolion gofalgar, hyderus wedi rhoi andros o foddhad i ni fel teulu."

"Rydw i’n caru maethu plant yn eu harddegau gan fy mod yn gwybod na fyddant fyth yn fy anghofio i." - Sharen

"Fe gysylltodd person ifanc yr oeddem yn arfer ei faethu â mi ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, gan ddweud nad oedd ganddynt luniau ohonynt yn blentyn. Roedd modd i ni roi rhywfaint o luniau yr oeddem wedi’u tynnu pan oeddynt yn ein gofal ni. Yna fe wnaethant ofyn petaent yn gallu dod i ymweld â ni gyda’u plant er mwyn iddynt ail-greu rhai o’r lluniau roeddem wedi eu hanfon atynt. Roedd hi’n hyfryd eu gweld nhw eto a dal i fyny ar yr hyn roeddynt wedi bod yn ei wneud ers iddyn nhw ein gadael ni."

"Dyma’r math o atgofion rydw i’n eu trysori." 

Adegau emosiynol

Cawsant foment dwymgalon yn ddiweddar gydag un o’r bobl ifanc sydd yn byw gyda Sharen a Colin yn rhan o gynllun "Pan Fydda’ i’n Barod" (gwefan allanol), yng Nghymru sydd yn rhoi’r hawl i bobl ifanc aros gyda’u gofalwyr maeth ar ôl iddynt gyrraedd 18 mlwydd oed.

"Fe ofynnodd hi i ni’n dau ysgrifennu Mam a Dad ar ddarn o bapur. Wnaethom ni ddim meddwl llawer am y peth ar y pryd hyd nes iddi ddod adref ychydig ddiwrnodau wedyn ac roedd hi wedi cael tatŵ o’r geiriau ar ei braich! Roeddem ni wedi’n syfrdanu’n llwyr. Roedd hi’n foment emosiynol iawn."

Fostering Blog (January 2024): Tattoo


"Rydym ni wir yn caru ein plant maeth fel ein plant ein hunain…felly roedd y ffaith ei bod hi gwneud rhywbeth fel ‘na yn golygu gymaint i ni." - Sharen.

Y gefnogaeth i chi fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych.

Fel Gofalwr Maeth, fe fyddwch chi’n cael eich cefnogi mewn sawl ffordd. Yn Maethu Cymru Sir Ddinbych rydym ni’n cynnal fforymau Gofal Maeth trwy gydol y flwyddyn sydd yn gyfarfodydd anffurfiol i ofalwyr maeth, gan roi cyfle i bawb ddal i fyny, i rannu straeon a chael cyngor a dal i fyny gyda’r tîm dros baned! Yn aml mae gennym ni siaradwyr gwadd hefyd a phobl o adrannau eraill o fewn yr Awdurdod Lleol i siarad am wasanaethau perthnasol sydd ar gael i’n gofalwyr maeth a’u teuluoedd.

Fe fyddwch chi hefyd yn cael Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol dynodedig a fydd yn eich cynorthwyo trwy gydol eich taith maethu.

"Mae gen i berthynas dda iawn gyda fy Ngweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol", meddai Sharen. "Mae hi’n rhoi llawer o gefnogaeth i mi, a dwi’n gwybod y galla’ i gysylltu gyda hi i gael cyngor pryd bynnag rydw i angen."

"Yn ogystal â chefnogi ein gofalwyr maeth, mae goruchwylio hefyd yn gyfle i ni adnabod a diolch i’n gofalwyr maeth am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud i blant yng nghanol ein cymunedau.” - Stacey, Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, Maethu Cymru Sir Ddinbych."

Allech chi faethu gyda’ch Awdurdod Lleol?

Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych ac yn teimlo y gallwch helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol, cysylltwch â Maethu Cymru Sir Ddinbych a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu os yw Maethu yn iawn i chi.

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru (gwefan allanol) i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich Awdurdod Lleol.