beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?
Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu gyffredin. Maethu Cymru yw’r cydweithrediad cenedlaethol sy’n cynnwys 22 o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Rydyn ni’n edrych ar y darlun cyfan er mwyn gwneud y gorau i’r holl blant yn ein gofal, ac mae aros yn lleol wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n helpu i gynnal cysylltiadau pwysig plant – cyfeillgarwch, ysgolion, clybiau a chymunedau. Rydyn ni’n blaenoriaethu cadw plant mewn amgylchoedd cyfarwydd, yn yr ardaloedd lleol maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru, pan mae hynny’n iawn iddyn nhw.
Mae’n bwysig bod plant yn cynnal eu hunaniaeth a’u hymdeimlad o’u hunain, a gallwn ni helpu gyda hyn wrth iddyn nhw aros yn lleol. Mae’n ymwneud â deall, gofalu a gwneud yr hyn sydd ei angen i bob plentyn.
Fel rhiant maeth gyda Maethu Cymru, chi sy’n gwneud hyn i gyd yn bosibl.