Pobl, dim elw, sy'n bwysig i Maethu Cymru Sir Ddinbych. Mae gennyn ni ddau brif bwrpas: cefnogi a grymuso gofalwyr maeth, a chreu dyfodol gwell i blant lleol.
Efallai eich bod chi eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi'n maethu gyda'ch Awdurdod Lleol, rydych chi eisoes yn rhan o dîm ehangach Maethu Cymru. Wedi'r cyfan, ni yw'r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Hyd yn oed os dydych chi ddim yn maethu gydag Awdurdod Lleol ar hyn o bryd, mae trosglwyddo aton ni’n broses hawdd. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.