Hug
Hug

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Mae angen lle i fyw, lle i ddysgu, lle i garu a lle i chwerthin ar blant maeth. Mae angen cartref arnyn nhw.

Mae nifer o wahanol fathau o faethu, ond mae pob un yn darparu’r gwerthoedd allweddol hyn ac yn galluogi plentyn i dyfu i fyny mewn amgylchedd diogel.

Dydy maethu ddim yn golygu gofal tymor hir yn unig. Gall hefyd olygu aros dros nos, seibiant byr neu aros am ychydig fisoedd. Mae hefyd yn gallu golygu rhywbeth hirach ac efallai mwy parhaol, os yw hynny’n iawn i chi a’r plentyn.

Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw hefyd yn wahanol. Mae pob teulu maeth yn unigryw hefyd, felly dyna pam does dim un teulu maeth nodweddiadol.

gofal maeth tymor byr

Meithrin teulu yn yr ardd

Gall gofal maeth tymor byr fod am awr, diwrnod, mis neu flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod y cynlluniau ar gyfer dyfodol plentyn yn dal ar waith. Yn y cyfamser, cartref diogel yw’r union beth sydd ei angen arno.

Pan fyddwch yn dod yn ofalwr maeth tymor byr, byddwch yn gweithio gyda ni wrth i ni geisio sicrhau’r cam nesaf – gallai hwn fod yn gartref maeth mwy ‘tymor hir’, dychwelyd at deulu’r plentyn neu weithiau, symud at deulu sy’n mabwysiadu. Mae tymor byr yn golygu y byddwch bob amser yno i helpu a gofalu am blentyn pryd bynnag y bydd arno eich angen chi. Yn bwysig, byddwch hefyd yno i’w helpu i symud ymlaen i’r cam nesaf pwysig hwnnw, beth bynnag y bo.

Cerdded teuluol yn Llyn y Rhyl

Peidiwch â meddwl bod aros am gyfnod byr yn golygu effaith fach. Mae’n gallu bod yn fan cychwyn i rywbeth gwych. Mae’n gallu bod yn safle lansio ar daith sy’n newydd i bob plentyn yn ein gofal, ac wrth gwrs, i bob gofalwr maeth hefyd.

gofal maeth tymor hir

Lluniadu teulu

Os nad yw plentyn yn gallu byw gartref, mae gofal maeth tymor hir yn gallu bod yn rhywle diogel newydd iddo. Mae’n cynrychioli dechrau newydd a sefydlogrwydd. Rhywle lle mae’n perthyn.

Teulu maethu gartref: Mam a Dad

Mae paru gofalus ac ystyriol iawn ar waith ar gyfer gofal maeth tymor hir. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y plentyn maeth cywir yn cael ei baru â’r gofalwr maeth cywir cyhyd ag y bo angen. Mae’r math hwn o faethu’n ymwneud â sicrhau sefydlogrwydd yn ogystal ag amgylchedd diogel. I blentyn, mae’n golygu teulu maeth sefydlog am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae’r tymor byr a’r tymor hir yn cynnwys pob math o faethu. Mae’r rhain yn cynnwys rhai mathau arbenigol – ac mae angen math arbennig o gymeradwyaeth ar rai ohonyn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Chwerthin teuluol

seibiant byr

Mae angen cyfle ar bawb i gymryd cam yn ôl a chael hoe weithiau. Dyna pam mae seibiant byr ar gael.

Gall seibiant byr, sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘ofal cymorth’, olygu derbyn plentyn dros nos, yn ystod y dydd neu ar benwythnosau. Mae’r rhain weithiau’n cael eu cynllunio ymlaen llaw a gallan nhw ddigwydd yn aml, neu unwaith yn unig. Hanfod seibiant byr yw cynnig cyfleoedd a phrofiadau newydd. Mae’n eich galluogi i wneud gwahaniaeth drwy ddod at eich gilydd – rydych yn dod yn rhan o deulu estynedig y plentyn ac yn rhan o’i fywyd.

Teulu'n mwynhau hufen iâ

rhiant a phlentyn

Mae lleoliadau rhiant a phlentyn yn golygu y gallwch rannu eich sgiliau a’ch profiad eich hun â rhywun sydd angen y gefnogaeth a’r arweiniad hwnnw. Mae’n caniatáu i chi annog y genhedlaeth newydd fel eu bod nhw’n gallu gwneud yr un peth yn y dyfodol. Mae’r lleoliadau hyn yn helpu rhieni i ddatblygu’r sgiliau personol sydd eu hangen arnyn nhw, yn ogystal â sgiliau ar gyfer eu plentyn, ac maen nhw’n ffordd werthfawr o helpu rhieni ifanc i deimlo’n hyderus ac yn abl.

Teulu maethu gartref

gofal therapiwtig

Weithiau mae angen gwahanol fathau o ofal ar gyfer plant sydd ag anghenion mwy cymhleth. Mae gofal therapiwtig ar gael i helpu plant o’r fath. Gyda’r math yma o ofal, mae eich teulu maeth yn fwy unigryw fyth – a gall y manteision fod yn well fyth hefyd. Er mwyn helpu i wneud yn siŵr eich bod yn cael cefnogaeth, mae gofalwyr therapiwtig a’u plant bob amser yn cael mwy o arweiniad a hyfforddiant i’w helpu.

Ffoaduriaid ifanc

ffoaduriaid ifanc

Mae ffoaduriaid ifanc yn cyrraedd y DU ar eu pen eu hunain neu wedi'u gwahanu oddi wrth eu teulu yn ystod y daith - yn chwilio am ddiogelwch a dechrau newydd. Mae mwy na 100 o’r ffoaduriaid ifanc hyn yn cyrraedd Cymru bob blwyddyn.

Rydym angen teuluoedd yn Sir Ddinbych a all gynnig cymorth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoaduriaid ifanc wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

Gyda'n cefnogaeth a'n harweiniad, gallwch chi helpu i arwain ffoadur ifanc tuag at ddyfodol cadarnhaol, gan roi'r cyfle iddynt ddysgu ac adennill eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

I gael gwybod sut y gallwch gefnogi ffoadur ifanc, defnyddiwch y ffurflen gysylltu isod i ofyn am becyn gwybodaeth.