Chwerthin teuluol
Chwerthin teuluol

pam ein dewis ni?

Maethu Cymru yw'r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu nid-er-elw Awdurdodau Lleol ledled Cymru, a'n tîm yn Sir Ddinbych yw eich rhwydwaith cefnogi lleol. Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu safonol – rydyn ni'n llawer mwy cysylltiedig.

Mae ein dewis ni yn golygu dewis pobl, dim elw – fel sefydliad nid-er-elw, mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r gwasanaeth maethu rydyn ni’n ei ddarparu. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i helpu i greu dyfodol gwell i blant lleol. Rydyn ni’n eu helpu i aros yn eu hamgylcheddau lleol cyfarwydd, pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.

Rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth bob dydd, gyda’n gilydd. Dyma sydd bwysicaf.

Meithrin teulu yn y parc

ein cenhadaeth

Ar hyd a lled Cymru, mae yna blant sydd ein hangen ni. Maen nhw eich angen chi hefyd.

Mae'r plant hyn yn fabis, yn blant bach, yn bobl ifanc yn eu harddegau, yn frodyr a chwiorydd ac yn rhieni ifanc. Mae gan bob plentyn stori unigryw ond mae ein cenhadaeth yr un fath ar gyfer pob un: creu dyfodol gwell.

Meithrin teulu yn yr ardd

ein cefnogaeth

Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi. Ni yw'r rhwydwaith cefnogi lleol cyflawn a fydd yn eich helpu chi a'r plant yn ein gofal bob amser.

Ble bynnag y bydd eich taith faethu yn eich arwain chi, byddwn ni wrth eich ymyl chi bob cam o’r ffordd. Byddwn yn eich tywys drwy bopeth gydag arbenigedd, cyngor a hyfforddiant penodol.

Meithrin teulu yn yr ardd

ein ffyrdd o weithio

Mae cysylltu a chydweithio’n rhan ganolog o bopeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni yma. Rydyn ni’n rhan o’ch cymuned. Rhan o’ch bywyd bob dydd.

Mae pob plentyn yn unigolyn ac mae gan bob un anghenion unigryw. Mae’r un peth yn wir am ein gofalwyr maeth, hefyd. Ein rôl ni yw helpu plant i fod y gorau y gallan nhw fod, drwy fod yn nhw eu hunain. O ran y gofalwyr maeth sy’n gwneud hyn i gyd yn bosibl, rydyn ni’n dathlu eu talentau presennol ac yn eu cefnogi i dyfu a datblygu gyda phob cam.

Cerdded teuluol yn Llyn y Rhyl

eich dewis

Drwy ddewis Maethu Cymru, rydych chi'n dewis gweithio gyda phobl sy'n malio. Rydych chi'n dewis pobl sy'n ymroddedig ac sy'n arbenigwyr yn eu maes. Mae ein tîm yn cynnwys unigolion sy'n byw yn eich cymuned ac sy'n deall bywyd yma yn Sir Ddinbych.

Cysylltwch â ni a chymerwch y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth yn Sir Ddinbych heddiw.