Merch
Merch

pwy all faethu?

pwy all faethu yn sir ddinbych?

Ar hyn o bryd, mae yna blant yn eich cymuned leol sydd angen rhywun i gredu ynddyn nhw. Rhywun i wrando arnyn nhw, a'u deall nhw. Rhywun fel chi.

P'un ai ydych chi'n berchen ar eich cartref neu'n ei rentu, p'un ai ydych chi'n sengl neu’n briod, beth bynnag yw eich ethnigrwydd, eich cyfeiriadedd rhywiol neu eich crefydd.

Os ydych chi'n dal yn ansicr a yw maethu’n addas i chi, daliwch ati i ddarllen i gael gwybod mwy.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Does dim dau ofalwr maeth yr un fath ac mae hynny’n wych – oherwydd mae’r holl blant yn ein gofal yn wahanol, ac efallai mai’r hyn y gallwch chi ei gynnig, dim ond drwy fod yn chi eich hun, yw’r union beth sydd ei angen ar berson ifanc. Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth eang o ofalwyr – pob un â chefndiroedd, profiadau a straeon gwahanol i’w rhannu.

Rydyn ni’n gofyn dau brif gwestiwn i bawb sydd â diddordeb mewn maethu – allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?

alla i faethu os ydw i'n gweithio'n llawn amser?

Rydyn ni’n gallu cynnig cefnogaeth ychwanegol os ydy’ch bywyd gwaith chi’n brysur. Efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch gan deulu a ffrindiau yn eich rôl fel gofalwr maeth hefyd. Mae’n ymwneud â chynllunio ar gyfer y dyfodol ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb llawn o fod yn ofalwr maeth – dydy maethu ddim yn cyd-fynd â’ch bywyd yn unig, mae’n ei drawsnewid.

Mae maethu yn gofyn am ymroddiad ac ymrwymiad. Mae gofyn gweithio fel tîm. Gyda Maethu Cymru, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm o weithwyr cymdeithasol, athrawon a therapyddion sydd wedi’u hyfforddi’n dda. Byddwn ni wrth eich ochr chi, yn eich cefnogi gyda phob cam.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i'n byw mewn llety rhent?

Does dim ots os ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais. Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel a saff yn lle rydych chi’n byw, yna dylai plentyn deimlo felly hefyd. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ganfod beth yw’r gorau, lle bynnag y byddwch yn ei alw’n gartref.

Meddyliwch am yr ystafell sbâr honno yn eich cartref. Ai dim ond ar gyfer storio mae’n cael ei defnyddio? Gallai fod yn rhywbeth anhygoel yn lle hynny. Gallai ddod yn lle diogel i blentyn sydd ei angen.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Mae gofalu am blentyn maeth yn golygu rhywun newydd i chi ei garu a gofalu amdano. Mae cael plant eich hun yn gallu bod yn fantais enfawr wrth faethu - i’r plentyn maeth, mae’n golygu’r cyfle i wneud ffrindiau â rhywun o oedran tebyg.

Gall eich plant elwa o gael brawd neu chwaer faeth hefyd. Mae’n helpu plant i ddeall, yn eu helpu i wneud ffrindiau am oes ac yn meithrin eu gallu i ofalu am eraill.

ydw i'n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran ar gyfer maethu. Gallwch ddechrau os ydych chi’n eich ugeiniau, neu gall fod yn antur newydd i chi yn eich saithdegau. P’un ai ydych chi’n ifanc, yn ganol oed neu’n hŷn, byddwch yn cael cefnogaeth a hyfforddiant lleol arbenigol i’ch paratoi ar gyfer y ffordd o’ch blaen. Cyn belled â’ch bod yn weddol ffit ac iach, byddem wrth ein bodd yn eich cael chi fel rhan o’n tîm maethu.

ydw i'n rhy ifanc i faethu?

Os ydych chi’n 21 oed neu’n hŷn, a’ch bod chi’n ddigon aeddfed i fod yn rhiant, gallwch faethu.

Mae profiad bywyd yn fantais, ond dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch fod yn rhan o’r gymuned faethu. Mae gennyn ni rwydwaith eang o gefnogaeth i helpu i’ch arwain er mwyn i chi allu mwynhau’r profiad a theimlo’n barod.

a oes rhaid i gyplau sy'n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Does gennyn ni ddim gofynion arbennig o ran bod mewn perthynas. Does dim rhaid i chi fod yn briod, nac mewn partneriaeth sifil i faethu.

Mae angen sefydlogrwydd ar blant – dyna’r peth pwysicaf. Felly, os ydych chi a’ch partner wedi bod gyda’ch gilydd ers dwy flynedd neu fwy, a’ch bod yn gallu cynnig bywyd cartref sefydlog, gallwch faethu. Bydd ein tîm yn Sir Ddinbych yn eich helpu i weld ai dyma’r amser iawn i chi, a byddwn yn cynnwys eich anwyliaid yn eich cais.

alla i faethu os ydw i'n drawsryweddol?

Dydy eich hunaniaeth o ran rhywedd ddim yn effeithio ar a allwch chi fod yn rhiant maeth da ai peidio. Eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar sy’n cyfri. Dyma’r pethau pwysicaf. Felly, yn sicr, gallwch faethu os ydych chi’n drawsryweddol.

alla i faethu os ydw i'n hoyw?

Gallwch, wrth gwrs. Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ffactor o ran gofal maeth chwaith. Os gallwch ddangos eich bod wedi ymrwymo i fod yn rhywun sy’n gofalu ac sy’n cynnig lle diogel i blentyn, chi yw’r union fath o berson sydd ei angen arnon ni.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Dydy cael ci, cath, neu unrhyw fath arall o anifail anwes, ddim yn golygu na allwch chi faethu. Mae’n golygu y byddwn ni’n cynnwys yr anifeiliaid hyn yn eich asesiad. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn sicrhau y byddan nhw’n cyd-dynnu ag unrhyw blant maeth yn y dyfodol, ac fel arall.

Gall anifeiliaid anwes gynnig gwahanol fath o gymorth i blant a bod yn hyfryd mewn amgylchedd maethu.

alla i faethu os ydw i'n ysmygu?

Mae gan bob Awdurdod Lleol bolisïau gwahanol ynghylch ysmygu a gofal maeth. Mae hyn yn cynnwys e-sigaréts. Bod yn onest ynghylch a ydych yn ysmygu ai peidio yw’r peth pwysicaf.

Os ydych chi’n dymuno rhoi’r gorau iddi, byddwn ni’n cynnig arweiniad ar sut i wneud hynny. Mae’n golygu dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

alla i faethu os ydw i'n ddi-waith?

Rydyn ni’n deall bod pawb yn cael trafferth gyda chyflogaeth ar adegau. Felly, os ydych chi’n ddi-waith ar hyn o bryd, fydd hyn ddim yn eich atal rhag dod yn ofalwr maeth. O ran bod yn rhiant maeth da, bod ar gael i gynnig cefnogaeth, arweiniad a chariad bob dydd sy’n bwysig.

Byddwn ni’n gweithio gyda chi i weld ai dyma’r amser iawn i chi.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Mae pob cartref maeth yn wahanol. Mae rhai yn fawr, mae rhai yn fach a dyma sut dylai fod. Does dim angen tŷ mawr arnoch chi i fod yn ofalwr maeth. Yr hyn sydd ei angen arnoch chi yw ystafell sbâr lle gall plentyn deimlo’n ddiogel ac yn gartrefol.

mathau o faethu

Gall maethu olygu diwrnod, wythnos, blwyddyn neu hyd yn oed fwy. Does dim math nodweddiadol o faethu.

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae'r atebion ar gael yma.

manteision a chefnogaeth

Mae sawl mantais i faethu. Dyma beth rydyn ni'n ei gynnig.