paned gyda gofalwr
mae'n dechrau gyda sgwrs
ydych chi’n ystyried maethu ond yn ansicr sut i ddechrau?
Beth am fwynhau paned a sgwrs gyfeillgar gydag un o’n gofalwyr maeth profiadol?
Mae paned gyda gofalwr yn cynnig ffordd anffurfiol a chroesawgar o ddysgu mwy am faethu gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych. P’un ai bod maethu’n syniad newydd, neu’n rhywbeth yr ydych wedi’i ystyried ers peth amser, dyma eich cyfle i ofyn cwestiynau, derbyn mewnwelediad o brofiadau bywyd go iawn, a chlywed beth yn union yw maethu gan rywun sy’n deall y daith.
Nid oes unrhyw ymrwymiad na phwysau, dim ond sgwrs hamddenol mewn caffi o’ch dewis, lle y gallwch fwynhau diod wrth ddysgu mwy am faethu.
Beth ydw i’n gallu ei drafod?
Unrhyw beth yr hoffech wybod mwy amdano.
mae pobl yn aml yn holi cwestiynau fel:
- Sut beth yw bywyd dyddiol gofalwr maeth
- Sut y gellir maethu ochr yn ochr â gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill
- Y gefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant sydd ar gael i ofalwyr maeth
- Beth i’w ddisgwyl yn ystod yr asesiad a’r broses gymeradwyo
- Buddion a heriau maethu
- Y mathau gwahanol o faethu
Nid oes ffasiwn beth â chwestiwn gwirion. Roedd ein gofalwyr maeth yn yr un sefyllfa â chi ar un adeg ac maent yn deall sut beth yw ystyried maethu am y tro cyntaf. Maent yn fodlon rhannu eu profiadau, ateb eich cwestiynau, a chynnig mewnwelediad gwirioneddol a gonest i’r daith faethu.