stori

mae ein gweithiwr cymdeithasol bob amser yn mynd y filltir ychwanegol honno i’n cefnogi ni i gyd fel teulu

Ymchwil newydd yn tynnu sylw at yr arbenigedd a’r cymorth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Sir Ddinbych, er mwyn ceisio annog mwy o bobl i faethu.

Gyda dros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ledled Cymru – 198 ohonynt yma yn Sir Ddinbych – mae’r angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn fwyfwy pwysig. 

Ym mis Ionawr, lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.

Ymunodd Maethu Cymru Sir Ddinbych â’r ymgyrch, ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ i rannu profiadau realistig y gymuned faethu ac ymateb i rwystrau cyffredin sy’n atal pobl rhag gwneud ymholiad.

Mae rhai o’r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu’n cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

“Mae ein gweithwyr cymdeithasol goruchwylio yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein cymuned o ofalwyr maeth” – Julie Fisher, Rheolwr Tîm Maethu Cymru Sir Ddinbych

Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a’r ‘swigen gymorth’ sy’n bodoli o amgylch gofalwyr maeth, er mwyn darparu’r canlynol i ofalwyr posib:

  1. Gwybodaeth a dealltwriaeth am rôl gweithwyr cymdeithasol, a sut y gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.
  2. Hyder a sicrwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy’n gweithio’n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.
  3. Cymhelliant i gychwyn y broses o ddod yn ofalwr maeth trwy Awdurdod Lleol.

Mewn arolwg cyhoeddus diweddar gan YouGov  dywedodd dim ond 44% o’r ymatebwyr fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu ac roedd bron i ddwy ran o bump (39%) o’r oedolion a holwyd yn teimlo bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol “yn cael pethau’n anghywir yn aml.” Yn ogystal, dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sy’n credu fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu ar hyn o bryd.

Mae’r ymgyrch ddiweddaraf ‘‘gall pawb gynnig rhywbeth’, yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu er mwyn deall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Cafwyd 309 o ymatebwyr ac mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • 78% o weithwyr cymdeithasol yn yr arolwg yn dweud eu bod wedi ymuno â’r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd
  • 18% o ofalwyr maeth yn dweud fod canfyddiadau negyddol o weithwyr cymdeithasol yn bodoli oherwydd sylw yn y Newyddion
  • 29% o ofalwyr maeth yn dweud, cyn cyfarfod â gweithiwr cymdeithasol eu bod yn meddwl y byddent yn ‘bobl â llwyth achosion trwm a llawer o waith papur.’
  • 27% o weithwyr cymdeithasol a holwyd yn credu bod darpar ofalwyr yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol

“Rydym yn cynnal boreau coffi, fforymau, digwyddiadau a diwrnodau allan rheolaidd i roi cyfle i’r gofalwyr maeth rannu profiadau, cael cyngor a chreu cymuned o ofalwyr maeth mewn awyrgylch anffurfiol” – Stacey, Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, Sir Ddinbych

Mae Stacey yn weithiwr cymdeithasol goruchwyliol gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych ac mae wedi treulio 4 blynedd yn y swydd. Bu’n myfyrio ar yr hyn sy’n gwneud gofalwr maeth gwych, a sut mae Maethu Cymru Sir Ddinbych yn cefnogi gofalwyr maeth lleol.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n gofalwyr maeth i adnabod y sgiliau sydd eu hangen mewn rôl faethu, mae rhai o’r rhain yn cynnwys meddwl agored, amyneddgar, anfeirniadol, meithrin a gallu uniaethu â phlant a’u teuluoedd.

“Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych, bydd gennych fynediad at wybodaeth a chymorth lleol pwrpasol, cyswllt rheolaidd a goruchwyliaeth gyda’ch gweithiwr cymdeithasol a chyfleoedd dysgu a datblygu cynhwysfawr i ddiwallu eich holl anghenion maethu. 

Rydym hefyd yn cynnal boreau coffi, fforymau, digwyddiadau a diwrnodau allan rheolaidd i roi cyfle i’r gofalwyr maeth rannu profiadau, cael cyngor a chreu cymuned o ofalwyr maeth mewn lleoliad anffurfiol.”

Yn yr ymchwil, tynnodd gofalwyr maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a hirhoedlog er mwyn cefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roeddent hefyd yn awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a’r cymorth a dderbynnir, a thalwyd teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol.

“Heb y rhwydwaith cymorth cryf a dibynadwy hwnnw o’ch cwmpas, byddai maethu gymaint yn anoddach ac rwy’n amau y gallem fod wedi’i wneud am gymaint o amser” – Sharen a Colin, Gofalwyr Maethu, Sir Ddinbych

Mae Sharen a Colin wedi bod yn maethu pobl ifanc yn eu harddegau gyda’u Hawdurdod Lleol yn Sir Ddinbych ers 24 mlynedd ac yn dweud na allent fod wedi maethu am yr holl amser hwn heb gefnogaeth eu tîm yn Sir Maethu Cymru Sir Ddinbych.

“Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi cael gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol gwych dros y blynyddoedd ac wedi gwneud llawer o gysylltiadau a ffrindiau gydol oes yn ystod y cyfnod hwn,” meddai Sharen. “Heb y rhwydwaith cymorth cryf a dibynadwy hwnnw o’ch cwmpas, byddai maethu gymaint yn anoddach ac rwy’n amau y gallem fod wedi’i wneud cyhyd heb y tîm yn Sir Ddinbych.

“Mae ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol presennol, Hazel, bob amser yn mynd y filltir ychwanegol honno i’n cefnogi ni i gyd fel teulu. Mae gennym ni dŷ sy’n llawn pobl ifanc yn eu harddegau ac mae hi’n ein cefnogi ni i gyd, gan gynnwys ein dau blentyn ein hunainl, nid dim ond Colin a fi, sydd yr un mor bwysig. Gallwn ei ffonio unrhyw bryd a bydd hi yno mewn fflach, ac os nad yw hi ar gael ar y pryd am ba bynnag reswm, bydd hi’n sicrhau bod rhywun o’r tîm yno i ni. 

“Mae hi’n wrandawr mor dda ac rwy’n teimlo’n gyfforddus wrth rannu fy holl deimladau personol gyda hi yn ystod goruchwyliaeth. Os ydym yn mynd trwy gyfnod anodd, bydd hi bob amser yn galw i mewn arnom, sy’n gysur.   

“Rydyn ni wrth ein bodd yn maethu pobl ifanc yn eu harddegau, maent yn rhoi boddhad mawr i ni. Bydd pobl yn aml yn dweud wrtha i bod ein pobl ifanc yn eu harddegau yn lwcus i’n cael ni ond dwi’n teimlo mai ni yw’r rhai lwcus i’w cael nhw yn ein bywydau.”  

Darllenwch blog Sharen a Colin: Pam ein bod wrth ein bodd yn maethu plant yn eu harddegau

Ychwanegodd Julie Fisher, Rheolwr Tîm Maethu Cymru Sir Ddinbych: “Mae ein gweithwyr cymdeithasol goruchwylio yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein cymuned o ofalwyr maeth. Mae’r cymorth hwn yn golygu bod gan ofalwyr maeth le diogel i siarad am eu teimladau a pherson penodol i gynnig cyngor ac arweiniad. Bydd y gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn dod i adnabod eich teulu cyfan fel y gallant helpu i ddeall y ffordd orau o baru plant a phobl ifanc â’ch teulu fel bod pawb yn cael profiad cadarnhaol.”

Am fwy o wybodaeth am faethu yn Sir Ddinbych, neu i wneud ymholiad, cysylltwch â ni heddiw.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch