
Dydi mynd i ofal maeth ddim yn hawdd i unrhyw blentyn ond i berson ifanc yn ei arddegau sydd ddim yn gallu byw gyda’i deulu biolegol gall fod yn gyfnod heriol iawn.
Fodd bynnag, i Ashlee o Sir Ddinbych, a aeth i fyw gyda’i theulu maeth yn 13 oed, roedd cael trefn, strwythur a sefydlogrwydd yn ei hannog i ffynnu yn yr ysgol, gwneud ffrindiau newydd a theimlo ei bod hi’n gallu llwyddo mewn bywyd.
Mae Ashlee bellach yn 20 oed ac yn awyddus i rannu sut y bu iddi gael budd o’r arweiniad a gafodd, ac y mae hi’n dal yn ei gael, gan ei gofalwyr maeth, Sharen a Colin, a sut mae bod yn rhan o deulu maeth cariadus a chefnogol wedi’i helpu yn ystod ei bywyd.
Darllenwch stori Ashlee.
“Es i fyw gyda Sharen a Colin pan oeddwn i’n 13 oed, gyda’m brawd a’m chwaer fach.
“Roedd yn anodd ar y dechrau. Roeddwn i’n colli fy mam fiolegol ac yn ddigalon. Doeddwn i ddim eisiau gwneud unrhyw beth gyda neb, heblaw am fy mrawd a’m chwaer fach, a doedden nhw byth bron yn gadael fy ochr.
“Ond buan iawn newidiodd pethau. Sylweddolais faint o groeso a gefais a faint yr oedden nhw fy eisiau, a pha mor gartrefol yr oeddwn i’n teimlo.
“Roeddwn i’n teimlo’n rhan o deulu mawr, hapus ac roeddwn i wrth fy modd efo’r teimlad hwnnw.
“Yn y bôn, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n mynd i fod mewn gofal maeth am gyfnod hir, felly penderfynais ei groesawu a gwneud y gorau o’r bywyd a’r cyfleoedd newydd oedd gen i.”
roedd yn rhyddhad
Yn tyfu i fyny gartref roedd yn rhaid i Ashlee ymgymryd â llawer o gyfrifoldebau, yn cynnwys edrych ar ôl ei brawd a’i chwaer fach, rhywbeth na ddylai unrhyw blentyn orfod ei wynebu. Yn hytrach na chanolbwyntio ar waith ysgol a ffrindiau, roedd hi’n helpu i fagu ei brawd a’i chwaer ac roedd hynny’n golygu bod ei haddysg a’i bywyd cymdeithasol yn dioddef.
“Roedd fy mhresenoldeb yn yr ysgol yn ofnadwy cyn i mi ddechrau byw efo Sharen a Colin. Doedd gen i ddim trefn amser gwely, roeddwn i’n effro yn aml iawn tan oriau mân y bore, ac roedd hynny’n golygu nad oeddwn i’n mynd i’r ysgol yn aml iawn ac felly doedd gen i ddim ffrindiau.
“Mewn ffordd roedd mynd i ofal maeth yn rhyddhad oherwydd roedd y cyfrifoldeb o fod yn “rhiant” i’m brawd a’m chwaer fach wedi’i gymryd oddi arnaf. Yn naturiol, fe gymerodd Colin a Sharen y rôl honno a oedd yn golygu fy mod i’n gallu bod yn berson ifanc ‘normal’ a mwynhau bod yn chwaer fawr, fel y dylai pethau fod.
“Roeddem ni’n gwneud pethau fel mynd i nofio a chwarae gemau bwrdd. Mi nes i feithrin perthynas efo’r plant maeth eraill yn y tŷ, a oedd yn neis oherwydd roedd gen i fwy o frodyr a chwiorydd!
“Am y tro cyntaf ers amser maith, doedd gen i ddim pryderon ac roedd hynny’n deimlad braf.”
rheolau a threfn
Pan aeth Ashlee i fyw efo Sharen a Colin roedd yna reolau a ffiniau. Roedd yna drefn a strwythur, sydd ar bawb eu hangen yn eu bywydau beth bynnag eu hoedran. Croesawodd Ashlee y ffordd o fyw newydd yma, a buan iawn fe ddechreuodd hi ffynnu yn yr ysgol.
“Roedd yna amser bwyta rheolaidd. Roeddwn i yn y gwely erbyn 9 ac roedd yn rhaid cadw ffonau symudol a dyfeisiau eraill y tu allan i’r ystafell wely yn y nos. Roeddwn i’n cysgu erbyn 9.30, a oedd yn golygu mod i’n gallu codi i fynd i’r ysgol yn y bore. A doedd dim twyllo Sharen na Colin drwy geisio smalio ein bod ni’n sâl chwaith – roedd yn rhaid i ni fynd i’r ysgol!
“Roedd cael strwythur, trefn a ffiniau yn fy helpu i lwyddo mewn sawl ffordd. Nes i ‘rioed rebelio yn erbyn hyn, roeddwn i’n ei groesawu oherwydd ei fod yn gwneud byd o les i mi! Ar ddiwedd y dydd, eu tŷ nhw oedd o, a’u rheolau nhw, ac roeddwn i’n parchu hynny. Gyda llond tŷ o blant, roedden nhw’n gwybod be’ oedden nhw’n ei wneud!
“Aeth fy mhresenoldeb yn yr ysgol i fyny i 98%, mi nes i ffrindiau newydd am oes ac mi ddechreuais i fwynhau’r ysgol.
“Gyda chefnogaeth Sharen a Colin, mi es i yn fy mlaen i gael graddau da a mynd i’r coleg i astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol; ac mae gen i rŵan swydd lawn amser fel Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd, a dw i wrth fy modd yn fy ngwaith.
“Rydw i wedi bod yn cynilo i basio fy mhrawf gyrru, a dw i newydd brynu car hefyd!”
‘mam a dad’ – am byth
I lawer o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth, mae dewis galw eu rhieni maeth yn ‘mam’ neu ‘dad’ yn dibynnu ar beth sy’n teimlo’n naturiol ac yn normal iddyn nhw. Mae Ashlee yn cofio’r union foment y bu iddi ddechrau galw Sharen a Colin yn ‘Mam’ a ‘Dad’.
“Roeddwn i wedi bod yn meddwl am y peth ers tro gan fod eu galw nhw’n Shaz a Col ddim yn teimlo’n iawn bellach.
“Felly un diwrnod, mi nes i ofyn i Sharen ‘beth wyt ti eisiau i swper, mam?’. Dydw i ddim yn meddwl ei fod wedi treiddio i mewn ar y cychwyn, felly dywedais i hynny eto. A dyna fo.
“Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, dechreuais alw Colin yn ‘Dad’, roedd o’n teimlo’n naturiol.

“Pan oeddwn i’n 18 oed, penderfynais (fel syrpréis) gael tatŵ i ddangos fy nghariad tuag atynt. Mi nes i ofyn i’r ddau ohonyn nhw ysgrifennu ‘Mum’ a ‘Dad’ ar ddarn o bapur ac wedyn mi ges i’r ysgrifen hwnnw yn datŵ ar fy mraich.
“Roedden nhw wrth eu bodd pan welon nhw’r tatŵ. Roedd hi’n foment emosiynol iawn.”

rwy’n dy garu di
Yn aml iawn, ar ôl symud o ofal maeth hirdymor, mae’r berthynas rhwng y person ifanc a’r teulu maeth yn parhau i oedolaeth, a drwy gydol eu bywydau byddan nhw’n rhannu llawer o gerrig milltir ac amseroedd arbennig gyda’i gilydd.
Mae Ashlee yn 20 oed erbyn hyn ac yn byw mewn anecs hunangynhwysol sy’n rhan o gartref y teulu, ac mae hi’n dal yn agos at ei theulu maeth, gan gael annibyniaeth ar yr un pryd.
I geisio annog mwy o bobl i ystyried maethu, mae Ashlee eisiau rhannu neges o’r galon y bu iddi ysgrifennu at ei mam faeth mewn cerdyn Nadolig – cerdyn sy’n cael ei drysori’n fawr iawn gan Sharen (rydym yn rhannu’r neges yn yr iaith a ysgrifennwyd gan Ashlee i adlewyrchu ei union eiriau):
“To Mum,
Words can’t describe how much you mean to me. You have saved my life and I am so grateful. I’m not only grateful for what you’ve done for me but for being able to call you ‘mum’. Thank you for saying ‘yes’ to having me. Thank you for being there for when I needed you and for being there when I was going through some rough times. I am so happy that you gave me and my brother and sister a chance in life and we are all where we are today because of you.
I love you.
Lots of love, Ashlee.”

fedrwch chi helpu i roi dyfodol gwell i berson ifanc fel Ashlee drwy ddod yn ofalwr maeth gyda’ch awdurdod lleol?
Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych cysylltwch â Maethu Cymru Sir Ddinbych a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.
Os ydych chi’n byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.