trosglwyddo i ni

dewiswch maethu cymru sir ddinbych

Rydych chi eisoes wedi gwneud y penderfyniad anhygoel i wneud gwahaniaeth a dod yn ofalwr maeth.

Efallai eich bod eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol yng Nghymru, yna rydych chi eisoes yn rhan o dîm ehangach Maethu Cymru.

Os ydych yn ofalwr maeth gydag asiantaeth breifat ar hyn o bryd, mae trosglwyddo i ni yn broses syml.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am drosglwyddo i Maethu Cymru Sir Ddinbych.

manteision maethu gydag awdurdod lleol

Mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol. Drwy faethu’n uniongyrchol gyda ni, byddwch chi’n rhan allweddol o dîm gyda gwybodaeth fanwl am daith y plentyn, gwasanaethau lleol ac ysgolion sy’n amhrisiadwy i ofalwyr maeth.

Fel sefydliad nid-er-elw, mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r gwasanaeth maethu a ddarparwn. Rydyn ni’n gweithio fel un tîm mawr i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol sy’n byw yn ein cymuned trwy eu helpu i aros yn lleol, pan fydd yn iawn iddyn nhw, a chreu canlyniadau gwell iddyn nhw.

Rydym yn gyfeillgar, yn gyfarwydd ac yn deall realiti bywyd yn eich cymuned. Mae gennym wybodaeth leol am ein plant a’n gofalwyr maeth, ac rydym ar gael pryd bynnag y byddwch ein hangen. Byddwch bob amser yn cael eich cefnogi.

yr hyn yr ydym yn ei gynnig yn maethu cymru sir ddinbych

  • Rhwydwaith cefnogol o dros 60 o ofalwyr maeth wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych.
  • Rhaglen ddysgu a datblygu gynhwysfawr, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb a dysgu arlein, gyda hyfforddiant a datblygiad arbenigol lle bo angen.
  • Cofnod dysgu unigol a chynllun datblygu, wedi’u llenwi â’r holl sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy y byddwch wedi’u hennill ar hyd y ffordd, ac yn gosod llwybr ar gyfer eich dyfodol.
  • Gwasanaeth therapiwtig, sy’n cefnogi ein plant a gofalwyr maeth.
  • Cefnogaeth broffesiynol 24/7 ar gyfer cyngor, arweiniad neu gefnogaeth. Ni fyddwch byth yn teimlo’n unig gyda ni.
  • Mynediad i nifer o grwpiau cymorth gofal maeth lleol, digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd lle gallwch ddod yn nes at deuluoedd maeth eraill, cael profiadau newydd, cyfeillgarwch ac atgofion parhaol.
  • Cefnogaeth ariannol sylweddol a lwfansau hael.
  • Cerdyn Max ac aelodaeth Cadw ynghyd â mynediad i ostyngiadau amrywiol.
  • Cerdyn gostyngiad Blue Light – mynediad am ddim a rhatach i atyniadau ledled y DU, gan gynnwys gostyngiadau ar gyfer siopau adnabyddus ar y stryd fawr.

“maethu gyda’n hawdurdod lleol oedd y dewis iawn i ni fel teulu, mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych”

Darllenwch stori Amy a Paul am sut brofiad fu eu blwyddyn gyntaf fel gofalwyr maeth gyda’u hawdurdod lleol yn Sir Ddinbych.

 

sut i drosglwyddo atom ni

Mae trosglwyddo i ni yn dechrau gyda sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth.

Byddwn yn siarad am pam rydych am drosglwyddo, sut y bydd y broses yn gweithio orau i chi, sut y byddwn yn eich cefnogi ac yn trafod eich anghenion.

P’un a oes gennych blentyn neu berson ifanc yn byw gyda chi eisoes, ai peidio, mae gennym lawer o brofiad o’r broses drosglwyddo a byddwn yn sicrhau bod y broses mor syml â phosibl.

cael eich canllaw trosglwyddo

Cliciwch ar y botwm isod i dderbyn canllaw ‘Trosglwyddo atom Ni’ sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am fanteision trosglwyddo atom ni, sut mae’r broses yn gweithio a pham ddylech chi drosglwyddo at Maethu Cymru Sir Ddinbych.

cysylltwch â ni i sgwrsio am drosglwyddo

Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ
Call 0800 7313 215

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon